Cronfa Waddol Cynnal

Gwynedd, I gyd, and Ynys Môn

Applications for this grant are closed

Mae'r gronfa hon bellach ar gau, a bydd yn ailagor eto ddydd Llun 13 Ebrill 2026 (yn amodol ar newid). Cofrestrwch i'n cylchlythyr grantiau i fod yn siŵr eich bod yn cadw i fyny â dyddiadau agor y gronfa.

Mae Cronfa Waddol Cynnal yn grant a fydd yn ariannu prosiectau addysgol yng Ngwynedd ac Ynys Môn, a bydd yn darparu cefnogaeth i’r themâu canlynol:

  • Gweithgareddau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant, pobl ifanc a phlant oed ysgol yn y blynyddoedd cynnar hyd at 18 oed.
  • Prosiectau ysgol/coleg sy’n cefnogi hyfforddiant galwedigaethol, materion iechyd a byw’n iach.

Grantiau ar gael

Mae grantiau o £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd ar gael i sefydliadau.

Gellir defnyddio grantiau i ariannu cyfalaf a/neu gostau rhedeg prosiect.

Pwy sy'n gallu ymgeisio?

Elusennau neu sefydliadau cymunedol dielw sy’n darparu gweithgareddau addysgol.

Ysgolion yng Ngwynedd neu Ynys Môn, i’w ddefnyddio at ddibenion addysgol elusennol sy’n ychwanegol at ofynion gorfodol cwricwlwm yr ysgol.

Ni roddir grantiau i dalu am unrhyw gostau sy’n dod o dan ddarpariaethau statudol.

How to apply?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein trwy ein gwefan. Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.

Cronfa Waddol Cynnal

Hawdd ei ddeall- Cronfa Waddol Cynnal

An icon of a clipboard with ticks.

Meini Prawf Cronfa Waddol Cynnal

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
An icon of a clipboard with ticks.

Make sure you're eligible

Please read the following text to ensure your eligibility before beginning your application:

Continue

Grants

Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd and Sir y Fflint

Hawarden & District Relief in Need Fund – Individuals

All, Flintshire and North Wales

Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton – Unigolion

Canolbarth a Gorllewin Cymru, I gyd and Sir Penfro

Sefydliad Addysgol John Vaughan – Unigolion

I gyd and Sir Gar