Ein tîm
Rydym yn dîm brwdfrydig iawn sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth i gymunedau ar hyd a lled Cymru.
Rydym yn arbenigwyr ym maes rhoi i elusennau a rhoi grantiau yng Nghymru. Cysylltwch â ni, gofynnwch gwestiynau i ni, rhannwch eich syniadau a gadewch i ni weithio gyda’n gilydd!
Cliciwch ar aelod o’r tîm i gael rhagor o wybodaeth amdano neu amdani.
Prif Weithredwr a Dirprwy Brif Weithredwr
Arwain y sefydliad a helpu i lunio dyfodol haelioni yng Nghymru. Gan weithio ochr yn ochr â’r Uwch Dîm Rheoli, maent yn gosod cyfeiriad strategol, yn cefnogi ac yn datblygu ein pobl, yn meithrin perthnasoedd dylanwadol ar draws y sector gwirfoddol a maes haelioni, ac yn gweithio gyda rhwydwaith Sefydliadau Cymunedol y DU i gynyddu ein cyrhaeddiad a’n heffaith.
Haelioni
Gweithio’n agos gyda rhoddwyr, busnesau, cynghorwyr proffesiynol a chefnogwyr i droi haelioni yn newid parhaol. Drwy gymryd yr amser i ddeall nodau a gwerthoedd pob rhoddwr, mae’r tîm yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol, yn creu cyfleoedd rhoi ystyrlon ac yn meithrin perthnasoedd hirdymor. Maent hefyd yn creu cyfleoedd i roddwyr a busnesau gysylltu, dysgu a rhannu drwy ein rhwydweithiau a’n digwyddiadau.
Cyfathrebu a Marchnata
Llunio sut mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn cael ei weld, ei glywed a’i ddeall. Drwy gyfathrebu a marchnata strategol, mae’r tîm yn dod â’n gwaith, ein gwerthoedd a’n heffaith yn fyw, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth, cryfhau ein henw da ac ysbrydoli mwy o bobl i gefnogi cymunedau ledled Cymru.
Cyllid
Darparu’r arbenigedd ariannol sy’n sail i’n gwaith ac yn helpu i sicrhau bod adnoddau’n cael eu rheoli’n effeithiol ac yn gyfrifol. Mae’r tîm yn cefnogi llywodraethu cadarn, atebolrwydd a chynaliadwyedd hirdymor, gan ein galluogi i wneud y mwyaf o werth ac effaith yr arian a ymddiriedir i ni.