Annabel Lloyd

Ymddiriedolwr

Annabel Lloyd

Fy nghefndir

Mae gen i radd mewn Ieithoedd Modern, felly, roeddwn i wedi treulio llawer o amser yn Ffrainc a’r Eidal cyn dod yn ôl i Gymru a chychwyn ar fy ngyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd yn y 1990au.

Rwy wedi gweithio mewn llawer o wahanol sefydliadau, yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, yn bennaf fel ymgynghorydd cyfathrebu, ar fy liwt fy hunan ac fel rhan o asiantaeth, heblaw am gyfnod byr ar staff y gwasanaeth ambiwlans.

Beth rwy’n ei wneud

Ar ôl rhai blynyddoedd yn cyd-gyfarwyddo Golley Slater yng Nghaerdydd, fe benderfynais, unwaith eto, fentro ar fy liwt fy hunan a chymryd rhan mewn amrywiaeth ehangach o weithgareddau. Mae ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru’n rhan o hynny, felly rwy’n edrych ymlaen yn enfawr at fy nhro cyntaf fel ymddiriedolwr a gweld sut y bydd modd i mi gyfrannu.

Gwaith ymgynghoriaeth cyfathrebu strategol yw’r disgrifiad gorau o’r hyn rwy’n ei wneud ar hyn o bryd, gweithio gyda sefydliadau ar ddatblygu a sefydlu eu cyfathrebu i gynnal eu huchelgeisiau a’u nodau. Rwy’n arbennig o angerddol ynghylch y gwahaniaeth y mae diben yn ei wneud i bobl, eu sefydliadau a’u cyfathrebu, a sut y mae adrodd stori’n helpu i adeiladu perthynasau brand.

Mae ysgrifennu’n bleser pur, felly rwy hefyd yn derbyn prosiectau ysgrifennu copi â breichiau agored.

Holwch fi ynghylch...

Gwerth masnachol a sefydliadol o ddiben cymdeithasol a chyfraniad cymdeithasol cwmnïau, brand, cyfathrebu ac adrodd stori.

Pam rwy’n caru Cymru

Rwy wedi byw o gwmpas Caerdydd a’r Fro y rhan fwyaf o’m bywyd ac wedi treulio llawer o amser yn y Rhondda, o le mae fy nheulu, wrth dyfu i fynnu.

Rwy wrth fy modd gyda hiwmor y cymoedd, ein prifddinas, harddwch ac amrywiaeth ein tirweddau, eangder ein diwylliant a chryfder ac amrywiaeth cyfun ein hunaniaeth genedlaethol.

Rwy’n teimlo’n lwcus o fod yn perthyn i, ac wedi magu fy mhlant mewn, cenedl fechan ond rymus lle mae cyfrannu’n bosibl ac yn cael ei annog.

Rwy wastad wedi dod yn ôl i Gymru oherwydd ei bod, yn dal, yn lle gwych i’w alw’n gartref.

Trustees

Neil Moss

Neil Moss

Trustee

Neil Moss

Neil Moss

Ymddiriedolwr

Judi Rhys MBE

Judi Rhys MBE

Cadeirydd

Judi Rhys MBE

Judi Rhys MBE

Chair