Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton – Unigolion
I gyd, a Sir Penfro
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Nod Cronfa Addysg Plwyf Rudbuxton yw gwella addysg plant a phobl ifanc o dan 25 oed sy’n byw ym Mhlwyf Rudabaxton yn Sir Benfro.
Gall unigolion ddefnyddio grantiau ar gyfer y canlynol:
- Grantiau i gwmpasu costau myfyrwyr mewn addysg bellach/addysg uwch
- Grantiau i ddisgyblion ysgol ar gyfer deunyddiau, cyfarpar a gweithgareddau/teithiau
Gallai enghreifftiau gynnwys: bwrsariaethau prifysgol, cyfarpar/deunyddiau ar gyfer cyrsiau addysg uwch, costau teithio i’r coleg, ffioedd cwrs (lle nad oes cymorth arall ar gael e.e. benthyciad myfyriwr).
Pwy all wneud cais?
- Unigolion o dan 25 oed sy’n byw ym Mhlwyf Rudabaxton.
Sut i wneud cais?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.
Ni all unigolyn gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.
Meini prawf Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: