Arddangosfeydd Stuart Rendel

I gyd, a Powys

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Mae'r gronfa hon bellach ar gau. Bydd yn ailagor eto ym mis Ebrill 2026, yn amodol ar newid. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gael gwybod pryd mae cronfeydd yn agor ac yn cau.  

Gallwch gofrestru ar gyfer in Cylchlythyr Grantiau i dderbyn gwybodaeth am unrhyw gyfleoedd ariannu.

Mae Arddangosfeydd Stuart Rendel yn darparu cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Derbynnir ceisiadau gan rai sydd ar fin cychwyn eu gradd, neu rhai sydd yn y flwyddyn gyntaf o astudio.  Caiff ei ddyfarnu o Gronfa Ganolraddol ac Addysg Dechnegol Sir Drefaldwyn, a gaiff ei rheoli gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Y grantiau sydd ar gael

  • Mae gwerth yr arddangosfeydd hyd at £1,000 y flwyddyn am hyd at 4 blynedd o’u hastudiaethau is-raddedig.

Dyfernir ceisiadau ar sail perfformiad academaidd (Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol) a’r achos a wnaed dros gymorth yn y ffurflen gais.

Pwy all wneud cais?

Rhaid bod y canlynol yn berthnasol i’r ymgeiswyr:

  • trigolion Sir Drefaldwyn
  • o dan 25 oed
  • wedi mynychu Ysgol Uwchradd yn Sir Drefaldwyn am o leiaf 2 flynedd
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Sut i wneud cais?

Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys ar gyfer arddangosfa, cwblhewch ffurflen gais.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.

Arddangosfeydd Stuart Rendel

Hawdd ei ddeall - Arddangosfeydd Stuart Rendel

An icon of a clipboard with ticks.

Meini Prawf Arddangosfeydd Stuart Rendel

Arddangosfeydd Stuart Rendel

Lleihau pwysau meddwl myfyriwr prifysgol

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint

Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton – Unigolion

Canolbarth a Gorllewin Cymru, I gyd a Sir Penfro

Sefydliad Addysgol John Vaughan – Unigolion

I gyd a Sir Gar

Cronfa Waddol Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn