2025: Blwyddyn o leisiau cymunedol, twf a chysylltiad ledled Cymru
Os yw 2025 wedi dangos unrhyw beth i ni, mae’n dangos pa mor bwysig yw hi pan mae cymunedau, partneriaid a dyngarwch yn dod ynghyd, gyda newid ystyrlon yn dilyn. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi mynd o Ynys Môn i Gaerdydd, wedi cynnal digwyddiadau dan arweiniad pobl ifanc yn y Rhyl, ac wedi ariannu stiwdios recordio, caeau chwarae a banciau bwyd – pob un yn adrodd stori wahanol o wydnwch a phosibiliadau. Roedd hefyd yn flwyddyn o newid y tu ôl i’r llenni, wrth i ni symud i’n swyddfa newydd yn Hastings House, gan greu cartref newydd i gydweithio.
Dyma gipolwg ar rai o’r pethau sydd wedi llunio’r flwyddyn…

Ein cerdyn Nadolig 2025, wedi dylunio gan Jasmine Calloni
Arweinyddiaeth newydd, sylfeini cadarn
Roeddem wrth ein bodd yn croesawu Judi Rhys MBE fel ein Cadeirydd ar ddechrau’r flwyddyn, gan nodi pennod newydd gyffrous. Croesawom hefyd aelodau panel gwirfoddol newydd, gan gryfhau ein gwaith grantiau drwy brofiad byw ehangach.
Rydym hefyd wedi ehangu ein tîm Cyfathrebu a Marchnata, gydag Eleri yn ymuno fel Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata, a Kira fel Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata, gan adlewyrchu ein bwriad i adrodd straeon, codi ymwybyddiaeth a gwella ymgysylltiad.
Y Gymraeg, perthyn a lle
Roeddem yn falch o sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer ein Cynnig Cymraeg, cam sylweddol wrth gryfhau hygyrchedd a hunaniaeth ar draws ein gwaith.
Aethom ar draws Caerdydd, Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot fel rhan o’n digwyddiadau Croeso, gan groesawu cefnogwyr, partneriaid a sefydliadau cymunedol i ddysgu mwy am anghenion lleol a phwysigrwydd dyngarwch wrth ymateb iddynt.
Ar yr un pryd, fe wnaethom barhau â’n cyfres Spotlight yng Nghaerdydd – rhaglen o ddigwyddiadau i fenywod mewn busnes – gan eu helpu i gysylltu â’n gwaith ac i ehangu eu rhwydweithiau.
Uchafbwynt pwysig eleni oedd Eich Llais Chi, Eich Rhyl Chi, a gyflwynwyd gyda’r Neumark Foundation a Place Matters. Daeth trigolion, pobl ifanc, cyllidwyr a phartneriaid at ei gilydd i lunio gweledigaeth dan arweiniad y gymuned, er mwyn gwella dyfodol y dref.
Cyrraedd y diaspora Cymreig
Roeddem yn falch o gael ein dewis fel Elusen y Flwyddyn GlobalWelsh yn 2025, gan ein helpu i gryfhau cysylltiadau gyda chymunedau Cymreig ledled y DU ac yn rhyngwladol, a thrafod cefnogaeth hirdymor i Gymru.
Cronfeydd yn newid bywydau
Ym mis Chwefror gwelwyd dyfarniadau cyntaf Cronfa My Four Wheels, gan gefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal i gael gwersi gyrru, sy’n agor drysau tuag at dderbyn gwaith, addysg ac annibyniaeth.
Drwy Gronfa Brian Rees, dysgom am daith Daniella wrth iddi hyfforddi mewn meddygaeth, gan ddangos pwysigrwydd cefnogaeth wedi’i thargedu wrth greu cyfleoedd sy’n newid bywyd.
Roeddem yn falch hefyd o lansio Cronfa Annette Bryn Parri, a grëwyd i gefnogi cerddorion ifanc gyda gwersi cerddoriaeth, offerynnau a chyfleoedd hyfforddi er cof am y bianydd Cymreig enwog.
Gyda diolch i £200,000 gan y Foyle Foundation, byddwn yn gallu cefnogi elusennau ar lawr gwlad ledled Cymru gyda grantiau hyblyg o £2,000–£10,000, gan gyrraedd y sefydliadau sydd agosaf at eu cymunedau.
Sicrhawyd £90,000 fel rhan o Rhaglen Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yn y DU, a fydd yn lansio ym mis Ebrill 2026. Bydd y gefnogaeth aml-flwyddyn hon yn helpu pobl ifanc â phrofiad o ofal drwy gynnig camau ymarferol, gan eu helpu i sicrhau annibyniaeth a meithrin gwydnwch. Byddwn yn chwilio am gyllid cyfatebol yng Nghymru i gynyddu effaith y prosiect ymhellach.
Cyrhaeddodd Gymdeithas Adeiladu’r Principality filltir sgwar bwysig eleni, wrth iddynt ddyfarnu dros £2 filiwn mewn grantiau dros y pedair mlynedd ddiwethaf, gan gefnogi prosiectau sy’n gwella’r amgylchedd a bywydau pobl ifanc ledled Cymru. Roeddem hefyd yn falch o barhau â’n partneriaeth â Nourish the Nation, sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd, a gyda’r People’s Postcode Lottery sydd, trwy Cronfa Cymru, yn helpu sefydliadau dan arweiniad y gymuned i adeiladu dyfodol cryfach ledled y wlad.
Hyd yma yn 2025, mae Cronfa Cymru wedi dyfarnu £373,850 mewn grantiau ac wedi cefnogi 158 o brosiectau yng Nghymru.
Dim ond cipolwg o’n cronfeydd yw hyn, a sut mae dyngarwch Cymreig yn creu newid ar adegau tyngedfennol – o ymateb i argyfwng ac addysg, i annibyniaeth, creadigrwydd a chyfleoedd hirdymor.
Cefnogi cymunedau i dyfu
Drwy gydol y flwyddyn, cafodd ein tîm y cyfle i ymweld â sefydliadau cymunedol ledled Cymru i weld sut mae cyllid yn cefnogi pobl ac ardaloedd.
Yn SilkFutures yng Nghaerdydd, mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn sesiynau cyfansoddi caneuon, recordio a llesiant, gan ddefnyddio creadigrwydd i feithrin hyder, diolch i gefnogaeth gan People’s Postcode Lottery.
Wrth ymweld â Cymru Creations a Goalgetters gwelsom pa mor bwysig yw cyfleoedd creadigol a chwaraeon wrth helpu plant a phobl ifanc i feithrin sgiliau a hunan-gred. Ac ym Manc Bwyd Gwent Valleys Evangelism, gwelsom bwysigrwydd cefnogaeth i bobl sy’n wynebu argyfwng.
Yng Ngogledd Cymru, teithiodd ein tîm Grantiau ar draws Conwy, Caernarfon ac Ynys Môn. Treulion nhw amser gyda Youth Shedz, sy’n cefnogi cyflogadwyedd a chyfleoedd i bobl ifanc. Bu nhw hefyd yn ymweld â Clwb Hwylio Treftadaeth y Fenai, prosiect cymunedol sy’n gweithio gyda phobl hŷn, gan ganolbwyntio ar dreftadaeth leol a gwella llesiant.
Rydym wedi parhau gyda’n sesiynau gweithdai i ymgeiswyr i helpu sefydliadau i ddatblygu ceisiadau cryfach a gwella’r ffordd maent yn adrodd eu stori, gan gefnogi cynaliadwyedd hirdymor. Rydym yn falch o fod wedi cynnal 17 sesiwn, gan helpu 367 o unigolion a sefydliadau ledled Cymru.

Edrych ymlaen
Mae gwaith ar y gweill i lunio ein strategaeth pum mlynedd nesaf, wedi’i llywio gan yr hyn rydym yn parhau i’w ddysgu gan gymunedau a phartneriaid ledled Cymru. Mae ein ffocws yn parhau ar wydnwch cymunedol hirdymor, tyfu dyngarwch Cymreig, a sicrhau bod lleisiau lleol yn siapio lle mae cyllid yn mynd a pham.
Dim ond cipolwg yw’r adolygiad eleni, ar y gwaith a wneir yn bosibl gan ein rhoddwyr, ein partneriaid, ein gwirfoddolwyr a’n cymunedau. Ac i bawb sydd wedi chwarae rhan yn hyn, diolch am fod yn rhan o’n stori yn 2025.
