Magu hyder trwy bêl-fasged

Cronfa ‘Clybiau mewn Argyfwng’ gan Made By Sport

“Roeddwn i’n arfer bod yn nerfus iawn am gystadleuaeth ond ers i mi ddechrau gwneud y twrnameintiau, dwi wir wrth fy modd. Dwi wir yn caru fy nghit achos mae ganddo fy hoff rif arno sef fy oedran i. Mae gwisgo cit gyda fy ffrindiau yn y tîm gwir yn gwneud i mi deimlo’n rhan o dîm ac rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i chwarae’r gorau gallwn ni. Mae mam a dad yn dweud bod fy hyder wedi gwella’n arw ers i mi fod yn chwarae yn y twrnameintiau, dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fwy eleni. “

Mae Tribal Basketball yn dod â phêl-fasged i’r gymuned ac yn helpu i godi proffil y gamp ar draws Cymru. Wrth ddarparu sesiynau ar gyfer pob oedran, maen nhw’n canolbwyntio ar wneud pêl-fasged yn hwyl, yn gynhwysol, ac yn agored i bawb.

Yn dilyn cyfnod clo Covid-19, gwelodd Tribal Basketball gynnydd aruthrol yn nifer y plant oedd eisiau cymryd rhan yn y gamp. Cawsant grant gan gronfa Made by Sport i brynu pecynnau i blant eu defnyddio mewn twrnameintiau a phrynu offer i helpu cyflwyno sesiynau hyfforddi mwy cynhwysfawr.

Trwy ein cefnogaeth, Tribal Basketball wedi gallu cynnig cyfleoedd i blant na fyddai fel arall wedi gallu cymryd rhan yn y gamp. Mae darparu citiau i’r plant wedi eu helpu i gael ymdeimlad o agosatrwydd a pherthyn i’r clwb, gan wella eu lles corfforol a meddyliol.

Dywedodd Jon o Tribal Basketball:

“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i weithio tuag at ein nod o chwaraeon cynhwysol. Mae yna deimlad mawr o falchder wrth wylio’r plant yn datblygu eu sgiliau ac yn dyst i’r brwdfrydedd cynyddol sy’n dod gyda chwarae timau eraill mewn natur gyfeillgar gystadleuol.”

Stories

From South Wales to Nashville

From South Wales to Nashville

Wales in London Philanthropic Fund

O Dde Cymru i Nashville

O Dde Cymru i Nashville

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Fun, food and future skills

Fun, food and future skills

Principality Building Society’s Future Generations Fund

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality